Eseia 64:8-12 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni!Gwaith dy ddwylo di ydyn ni –ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd.

9. Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD!Paid dal dig am ein methiant am byth!Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!

10. Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch!Mae Seion yn anialwch,a Jerwsalem yn adfeilion.

11. Mae'r deml gysegredig a harddble roedd ein hynafiaid yn dy foli di,wedi cael ei llosgi'n ulw.Mae ein trysorau'n beil o rwbel.

12. Wyt ti'n mynd i ddal i ymataler gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD?Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n daweltra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?

Eseia 64