5. Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn,ac sy'n cofio sut un wyt ti.Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd,gallen ni ddal gael ein hachub!
6. Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan,mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron.Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen,Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
7. Does neb yn galw ar dy enw di,nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti.Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni,a gwneud i ni wynebu'n methiant!