2. Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder,a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander;a byddi di'n cael enw newyddgan yr ARGLWYDD ei hun.
3. Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD,neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
4. Gei di byth eto yr enw "Gwrthodedig",a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn "Anialwch".Na, byddi'n cael dy alw "Fy hyfrydwch",a bydd dy wlad yn cael yr enw "Fy mhriod".Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti,a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.