1. Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i,am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i'w wasanaethu.Mae wedi fy anfon i gyhoeddinewyddion da i'r tlodion,i drin briwiau y rhai sydd wedi torri eu calonnau,a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid,ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
2. i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma,a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial;i gysuro'r rhai sy'n galaru –
3. ac i roi i alarwyr Seiondwrban ar eu pennau yn lle lludw,ac olew llawenydd yn lle galar,mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd,wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.
4. Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion,yn codi lleoedd oedd wedi eu dinistrio,ac yn adfer trefi oedd wedi eu difaac heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.