5. Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,a cyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6. Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd;camelod o Midian, Effa a Sheba.Byddan nhw'n cario aur a thus,ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.
7. Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio;byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8. Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?