Eseia 60:18-21 beibl.net 2015 (BNET)

18. Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto,a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau.Byddi'n galw dy waliau yn "Achubiaeth"a dy giatiau yn "Foliant".

19. Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd,na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos.Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.

20. Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy,a llewyrch y lleuad ddim yn cilio;yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.

21. Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,ac yn etifeddu'r tir am byth.Nhw ydy'r blagur dw i wedi ei blannu,gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu.

Eseia 60