12. Bydd y wlad neu'r deyrnassy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio;bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr.
13. Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.
14. Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesuyn dod o dy flaen ac ymgrymu.Bydd y rhai oedd yn dy gasáuyn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di.Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’,a ‘Seion Un Sanctaidd Israel.’
15. Yn lle bod wedi dy wrthod,a dy gasáu, a neb yn mynd trwot ti,bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth –yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall.
16. Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd,ac yn sugno bronnau brenhinoedd.Wedyn byddi di'n gwybodmai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub,Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di yn rhydd.