Eseia 59:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch,a byth yn gwneud beth sy'n iawn.Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog,a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno.

9. Felly dyna pam nad ydy'r sefyllfa wedi ei sortio,ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau'n iawn.Dŷn ni'n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch!edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll.

10. Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall;yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld.Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu;dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.

11. Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirthneu'n cwyno a cŵan fel colomennod.Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael;am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.

12. Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di,mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni.Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela,a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:

13. Gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDDa throi cefn ar Dduw.Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu,a palu celwyddau!

Eseia 59