1. Edrychwch, dydy'r ARGLWYDD ddim yn rhy wan i achub;a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed!
2. Mae eich drygioni chiwedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw.Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio'i wyneba gwrthod gwrando arnoch chi.
3. Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan,a phechod yn baeddu eich bysedd.Mae eich gwefusau'n dweud celwydda'ch tafod yn sibrwd twyll.
4. Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn,a neb sy'n mynd i'r llys yn onest;ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd.Maen nhw'n achosi drygioniac yn esgor ar drafferthion.
5. Maen nhw wedi deor wyau nadroedd,ac yn nyddu gwe pry copyn.Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r wyau hynny'n marw,ac os ydy un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono.
6. Dydy'r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad;allan nhw ddim gwisgo'r hyn maen nhw'n ei nyddu.Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn ddrwg,ac maen nhw'n llawn trais.
7. Maen nhw'n rhedeg at y drwg,ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed.Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg,ac yn achosi llanast a dinistr.
8. Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch,a byth yn gwneud beth sy'n iawn.Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog,a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno.