4. Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio,Dim dyna'r ffordd i ymprydioos ydych chi eisiau i Dduw wrando.
5. Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? –diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo?Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio,yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?
6. Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:cael gwared â chadwyni anghyfiawnder;datod rhaffau'r iau,a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.
7. Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartrefa rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
8. Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr,a byddi'n cael dy adfer yn fuan.Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.