Eseia 57:17-21 beibl.net 2015 (BNET)

17. Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais.Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio,ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!

18. Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud,ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw.Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro;cysuro'r rhai sy'n galaru,

19. a rhoi lle iddyn nhw ddathlu:Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos!Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,”—meddai'r ARGLWYDD.

20. “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormussy'n methu bod yn dawel,a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.

21. Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,”—meddai fy Nuw.

Eseia 57