Eseia 57:13-21 beibl.net 2015 (BNET)

13. A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpupan fyddi di'n gweiddi –does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw!Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tirac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.

14. Dyma fydd yn cael ei ddweud:Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd!Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!

15. Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud,yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd:Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd,ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru –dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig,ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru.

16. Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg,na dal dig am byth.Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu,gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw.

17. Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais.Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio,ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!

18. Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud,ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw.Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro;cysuro'r rhai sy'n galaru,

19. a rhoi lle iddyn nhw ddathlu:Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos!Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,”—meddai'r ARGLWYDD.

20. “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormussy'n methu bod yn dawel,a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.

21. Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,”—meddai fy Nuw.

Eseia 57