1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2. Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth.Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan,ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.
3. Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud:‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’.A ddylai'r eunuch ddim dweud,‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’