Eseia 55:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael!Galwch arno tra mae'n agos!

7. Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau –troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.

8. Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi,a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

9. Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear,mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi,a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.

10. Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyra ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaeargan wneud i blanhigion dyfua rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,

11. felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi:dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –mae'n gwneud beth dw i eisiau,ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.

Eseia 55