1. “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!Prynwch a bwytwch.Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!
2. Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?Gwrandwch yn ofalus arna i!Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.