1. “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,ac yn ceisio'r ARGLWYDD:Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2. Meddyliwch am Abraham, eich tad,a Sara, y cawsoch eich geni iddi.Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
3. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro ei hadfeilion.Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,lleisiau'n diolch a sŵn canu.
4. Gwrandwch arna i, fy mhobl;daliwch sylw, fy nghenedl.Achos bydda i'n dysgu pobl,a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.