1. Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl –Cân fy nghariad am ei winllan.Roedd gan fy nghariad winllanar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
2. Palodd y tir a chlirio'r cerrig,a phlannu gwinwydden arbennig ynddi.Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol,a naddu gwinwasg ynddi.Roedd yn disgwyl cael grawnwin da,ond gafodd e ddim ond rhai drwg.
3. Felly, chi bobl Jerwsalema'r rhai sy'n byw yn Jwda –Beth ydy'ch barn chi?Beth ddylwn ni ei wneud gyda'm gwinllan?
4. Oedd yna rywbeth mwyy gallwn ei wneud i'm gwinllannag a wnes i?Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin dapam ges i ddim ond rhai drwg?
5. Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chibe dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan:Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio;a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
6. Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith;fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu,a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain.A bydda i'n gorchymyn i'r cymylaubeidio glawio arni.
7. Gwinllan yr ARGLWYDD holl-bwerusydy pobl Israel,a'r planhigion ofalodd amdanyn nhwydy pobl Jwda.Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder,ond trais a gafodd.Roedd yn disgwyl am degwch,ond gwaedd daer a glywodd!
8. Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,ac yn ychwanegu cae at gae,nes bod dim lle i neb arallfyw yn y wlad!
9. Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio,Fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
10. Bydd deg acer o winllanyn rhoi llai na chwe galwyn o win;a chae lle heuwyd deg mesur o hadyn rhoi ond un mesur yn ôl.
11. Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol,ac yn aros ar eu traed gyda'r nosdan ddylanwad gwin.