Eseia 43:18-28 beibl.net 2015 (BNET)

18. “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol,a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!

19. Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd!Mae ar fin digwydd!Ydych chi ddim yn ei weld?Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch,a rhoi afonydd yn y tir diffaith.

20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi,y siacaliaid a'r estrys,am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch,ac afonydd mewn tir diffaith,i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis –

21. y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun,iddyn nhw fy moli i.”

22. “Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob;rwyt ti wedi blino arna i, Israel.

23. Dwyt ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi,nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau.Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn,na dy boeni di am yr arogldarth o thus.

24. Dwyt ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mina'm llenwi gyda brasder dy aberthau.Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i,a'm blino gyda dy ddrygioni.

25. Fi, ie, fi – er fy mwyn fy hun –ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di,ac yn anghofio am dy bechodau di.

26. Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd.Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori;ceisia di brofi dy fod yn ddieuog!

27. Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i,wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i.

28. Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr,a gadael i Jacob gael ei alltudioac i Israel fod yn destun sbort.”

Eseia 43