13. Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwrar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel.Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuowrth ymosod ar ei elynion.
14. “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir;wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl.Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
15. Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd,a gwneud i bob tyfiant wywo.Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych,a sychu'r pyllau dŵr hefyd.
16. Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddallar hyd ffordd sy'n newydd,a gwneud iddyn nhw gerddedar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw.Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaenac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn.Dyma dw i'n addo ei wneud –a dw i'n cadw fy ngair.
17. Bydd y rhai sy'n trystio eilunodyn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio,sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel,‘Chi ydy'n duwiau ni!’”
18. Gwrandwch, chi'r rhai byddar;ac edrychwch, chi sy'n ddall!
19. Pwy sy'n ddall fel fy ngwas,neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon?Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo?Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
20. Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried;er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando.
21. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn,a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
22. Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth:maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau,a'u carcharu mewn celloedd.Maen nhw'n ysglyfaeth,a does neb i'w hachub;maen nhw'n ysbail,a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!”
23. Pwy sy'n barod i wrando ar hyn?Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
24. Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio,a rhoi Israel i'r lladron?Yr ARGLWYDD wrth gwrs –yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn!Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau,na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.
25. Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw,a thrais rhyfel.Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman,ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers.Cawson nhw eu llosgi,ond gymron nhw ddim sylw.