2. Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain?Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn?Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro,ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr.Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch,a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
3. Mae'n mynd ar eu holau,ac yn pasio heibio'n ddianaf;dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
4. Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
5. Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni,mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!
6. Maen nhw'n helpu ei gilydd,ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”
7. Mae'r saer coed yn annog y gof aur,a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwylyn annog yr un sy'n taro'r einion.Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!”ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud“Fydd hwnna ddim yn symud!”
8. Ond Israel, ti ydy fy ngwas i,Jacob, ti dw i wedi ei ddewis –disgynyddion Abraham, fy ffrind i.
9. Des i â ti yma o bell,a'th alw o ben draw'r byd;a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.”Dw i wedi dy ddewis di!Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!
10. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di!Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di,Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.