19. Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw,a gof yn ei orchuddio ag aura gwneud bachau i'w ddal yn ei le!
20. Mae'r sawl sy'n rhy dlawdyn dewis pren fydd ddim yn pydru,ac yn edrych am y crefftwr goraui wneud eilun sydd ddim yn symud!
21. Ydych chi ddim yn gwybod?Ydych chi ddim wedi clywed?Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau?Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
22. Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear,ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen.Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni,ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
23. Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb,a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.
24. Prin eu bod wedi eu plannu,prin eu bod wedi eu hau,prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir –mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo,ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.
25. “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi?Oes rhywun arall cystal?”—meddai'r Un Sanctaidd.
26. Edrychwch i fyny ar y sêr!Pwy wnaeth eu creu nhw?Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un?Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw?Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol –does dim un ohonyn nhw ar goll.
27. Jacob, pam wyt ti'n dweud,“Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”?Israel, pam wyt ti'n honni,“Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”?
28. Wyt ti ddim yn gwybod?Wyt ti ddim wedi clywed?Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol!Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan.Dydy ei nerth e ddim yn pallu;Dydy e byth yn blino.Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
29. Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf,ac yn rhoi egni i'r blinedig.
30. Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino,a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio;
31. ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDDyn cael nerth newydd.Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod;yn rhedeg heb flinoa cerdded ymlaen heb stopio.