1. “Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” –dyna mae eich Duw yn ei ddweud.
2. “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem,a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd;mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni.Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddidalu'n llawn am ei holl bechodau.”
3. Mae llais yn gweiddi'n uchel:“Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDDyn yr anialwch;gwnewch briffordd syth i Dduwdrwy'r diffeithwch!
4. Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn,a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir.
5. Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg,a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
6. Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!”Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?”“Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai,“a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt:
7. mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywopan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.”Ie, glaswellt ydy'r bobl.
8. Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo,ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!