2. Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo,
3. “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.
4. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia:
5. “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia:‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.
6. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.”
7. “‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo:
8. Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.
9. Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:
10. “Dywedais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwnam weddill fy nyddiau.’