Eseia 38:10-14 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Dywedais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwnam weddill fy nyddiau.’

11. Dywedais:‘Ga i byth weld yr ARGLWYDDyn y bywyd hwn eto;nac edrych ar y ddynoliaethfel y rhai sydd wedi peidio â bod.’

12. Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna ia'i symud fel pabell bugail.Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliainwedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

13. Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

14. Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,ac yn cŵan fel colomen,wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu!Achub fi!’

Eseia 38