3. Cryfhewch y dwylo llesg;a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn!
4. Dwedwch wrth y rhai ofnus,“Byddwch yn ddewr!Peidiwch bod ag ofn!Edrychwch ar ein Duw!Mae e'n dod i ddial!Y tâl dwyfol!Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!”
5. Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,a chlustiau pobl fyddar hefyd.
6. Bydd y cloff yn neidio fel hydd,a'r mud yn gweiddi'n llawen!Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
7. Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio.Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddianyn troi'n gorsydd o frwyn.
8. Bydd priffordd; ie, ffordd ynosy'n cael ei galw, "Y Ffordd Sanctaidd".Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni –mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd.Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.