Eseia 35:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen,bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo –yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.

2. Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi;bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi,a harddwch Carmel a Saron.Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD,a harddwch ein Duw ni.

3. Cryfhewch y dwylo llesg;a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn!

4. Dwedwch wrth y rhai ofnus,“Byddwch yn ddewr!Peidiwch bod ag ofn!Edrychwch ar ein Duw!Mae e'n dod i ddial!Y tâl dwyfol!Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!”

5. Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,a chlustiau pobl fyddar hefyd.

6. Bydd y cloff yn neidio fel hydd,a'r mud yn gweiddi'n llawen!Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.

Eseia 35