Eseia 34:5-11 beibl.net 2015 (BNET)

5. “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr,ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,ar y bobl dw i wedi eu dedfrydu i'w difrodi.”

6. Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid –gwaed ŵyn a bychod geifr,a'r brasder ar arennau hyrddod.Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,a lladdfa yn Edom.

7. Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,bustych a theirw.Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,a'r llawr wedi ei orchuddio gan frasder.

8. Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial –mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.

9. Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,a bydd ei phridd yn troi'n lafa.Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,

10. a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;bydd mwg yn codi ohono am byth.Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.

11. Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu;y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno.Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefnac yn ei bwyso i'w wagio.

Eseia 34