Eseia 33:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawnac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elwa drwy dwyll,na derbyn breib,yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed,ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.

16. Person felly fydd yn saff rhag y cwbl,a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas.Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnala bydd digonedd o ddŵr iddo.

17. Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander,a thir eang yn ymestyn i'r pellter.

18. Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith,“Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi?Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian?Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?”

19. Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto –yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall,ac yn paldaruo'n ddiystyr.

20. Dychmyga Seion,dinas ein gwyliau crefyddol!Byddi'n gweld Jerwsalemfel lle tawel i fyw –pabell does dim rhaid ei phacio,gyda pegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto,a rhaffau fydd byth yn torri.

21. Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd!Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo,ond heb longau gali sy'n cael eu rhwyfona llongau hwylio mawr yn mynd heibio.

22. Yr ARGLWYDD ydy'n barnwr ni,Yr ARGLWYDD ydy'n llywodraethwr ni,Yr ARGLWYDD ydy'n brenin ni –fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni!

23. Byddi'n cael dy ddarn o dira fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflagna chodi eu baner yno.Bydd digonedd o ysbail i gael ei rannu,a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr.

24. Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!”Bydd y bobl sy'n byw ynowedi cael maddeuant am bob bai.

Eseia 33