1. Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio;ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu!Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio;pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
2. O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni!Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti.Bydd di yn nerth i ni yn y bore,ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl.
3. Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi!Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru!
4. Mae'r ysbail maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglufel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno.
5. Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog!Mae'n byw yn yr uchelder!Mae'n llenwi Seiongyda chyfiawnder a thegwch.
6. Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser.Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth,a pharch at yr ARGLWYDD – dyna ei drysor iddi.
7. Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan!Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!
8. Mae'r priffyrdd yn wag!Mae'r teithwyr wedi diflannu!Mae'r cytundebau wedi eu torri,a'r tystion yn cael eu dirmygu.Does dim parch at fywyd dynol.
9. Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano!Mae Libanus yn crino a gwywo!Mae Saron fel anialwch,a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.
10. “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD,“Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i!
11. Dim ond us dych chi'n ei feichiogi;dim ond gwellt fydd yn cael ei eni!Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!
12. Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi,neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân.
13. Chi sy'n bell i ffwrdd,gwrandwch beth dw i wedi ei wneud!A chi sy'n agos,gwelwch mor nerthol ydw i.”
14. Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn,Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn.“Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma?Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”