Eseia 32:6-14 beibl.net 2015 (BNET)

6. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵla cynllunio i wneud pethau drwg.Mae'n ymddwyn yn annuwiolac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD.Mae'n gadael y newynog hefo stumog wagac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.

7. Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.Mae'n cynllunio i wneud drwg –dinistrio pobl dlawd trwy eu twylloa cham-drin yr anghenus yn y llys.

8. Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda,ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.

9. Chi wragedd cyfforddus, safwch!Gwrandwch arna i!Chi ferched heb bryder yn y byd,gwrandwch beth dw i'n ddweud!

10. Mewn llai na blwyddyn,cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd.Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu,a dim ffrwyth i'w gasglu.

11. Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni!Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu!Tynnwch eich dillad! Stripiwch!Gwisgwch sachliain am eich canol,

12. ac am y bronnau sy'n galaru!Dros y caeau hyfryd,a'r coed gwinwydd ffrwythlon.

13. Dros dir fy mhobl,bydd drain a mieri yn tyfu.Ie, dros yr holl dai hyfryd,a'r dre llawn miri.

14. Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.

Eseia 32