Eseia 32:4-8 beibl.net 2015 (BNET)

4. Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi,a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.

5. Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig,na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.

6. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵla cynllunio i wneud pethau drwg.Mae'n ymddwyn yn annuwiolac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD.Mae'n gadael y newynog hefo stumog wagac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.

7. Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.Mae'n cynllunio i wneud drwg –dinistrio pobl dlawd trwy eu twylloa cham-drin yr anghenus yn y llys.

8. Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda,ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.

Eseia 32