14. Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.
15. Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,a'r caeau droi'n goedwig.
16. Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwcha thegwch yn cartrefu yn y caeau.
17. Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch,ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.