Eseia 32:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dros dir fy mhobl,bydd drain a mieri yn tyfu.Ie, dros yr holl dai hyfryd,a'r dre llawn miri.

14. Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.

15. Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,a'r caeau droi'n goedwig.

16. Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwcha thegwch yn cartrefu yn y caeau.

17. Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch,ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.

18. Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff,tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.

19. Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysgac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,

20. y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr,ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.

Eseia 32