Eseia 32:11-14 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni!Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu!Tynnwch eich dillad! Stripiwch!Gwisgwch sachliain am eich canol,

12. ac am y bronnau sy'n galaru!Dros y caeau hyfryd,a'r coed gwinwydd ffrwythlon.

13. Dros dir fy mhobl,bydd drain a mieri yn tyfu.Ie, dros yr holl dai hyfryd,a'r dre llawn miri.

14. Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.

Eseia 32