Eseia 32:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn,a'i dywysogion yn rheoli yn deg.

2. Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt,a lloches rhag y storm;fel nentydd o ddŵr mewn tir sych,neu gysgod craig enfawrmewn crasdir.

3. Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych,a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.

4. Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi,a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.

5. Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig,na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.

6. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵla cynllunio i wneud pethau drwg.Mae'n ymddwyn yn annuwiolac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD.Mae'n gadael y newynog hefo stumog wagac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.

7. Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.Mae'n cynllunio i wneud drwg –dinistrio pobl dlawd trwy eu twylloa cham-drin yr anghenus yn y llys.

Eseia 32