7. Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.
8. “Bydd Asyria'n cael ei difa,ond nid gan gleddyf dynol;cleddyf Duw fydd yn eu taro.Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf,ond bydd eu milwyr gorau yn gaethweision.
9. Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn,a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”Dyna mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud –sydd a'i dân yn Seion,a'i ffwrnais yn Jerwsalem.