4. Dyma mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i:Fel mae llew, neu lew ifanc,yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth,a ddim yn dychryn wrth glywed sŵncriw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl.Dyna sut bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dod i lawri ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
5. Fel mae adar yn hofran yn yr awyr,bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn amddiffyn Jerwsalem.Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachubyn ei harbed a'i rhyddhau.
6. Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn.
7. Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.