1. Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help,a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel!Y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydaua'u nifer fawr o farchogion,yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israela gofyn am help yr ARGLWYDD.
2. Ond mae e hefyd yn ddoeth!Fe sy'n dod â trwbwl,a dydy e ddim yn torri ei air.Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwga'r rhai sy'n ei helpu i bechu.
3. Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw,a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd!Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law,bydd yr helpwr yn baglua'r un sy'n cael ei help yn syrthio –Bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!