Eseia 30:27-33 beibl.net 2015 (BNET)

27. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hunyn dod o bell,yn wyllt gynddeiriog,yn corddi o'i fewn.Mae'n siarad yn ddig,a'i eiriau fel tân yn difa.

28. Mae ei dymer fel llifogydd gwylltyn cyrraedd at y gwddf.Bydd yn ysgwyd y cenhedloeddmewn gogr i'w dinistrio,ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloeddi'w harwain ar gyfeiliorn.

29. Ond byddwch chi'n canu,fel petai'n noson i ddathlu gŵyl.Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pibwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.

30. Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel,a bydd ei fraich gref yn dod i lawrac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog,fel fflamau tân yn difa,neu gorwynt, storm a chenllysg.

31. Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria,sef y wialen ddefnyddiodd i daro.

32. Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisoddac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau,pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.

33. Mae'r goelcerth angladdol wedi ei pharatoi cyn hyn;mae'n barod ar gyfer eu brenin.Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan,ac mae digon o goed i'w tanio.Bydd anadl yr ARGLWYDDfel llif lafa yn dod i'w llosgi.

Eseia 30