17. Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;pump yn bygwth a pawb yn dianc.Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw felpolyn fflag ar ben bryn,neu faner ar ben mynydd.
18. Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn;ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
19. Wir i chi bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.
20. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.
21. Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”
22. Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi eu gorchuddio ag arian, a'r delwau metel gydag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud “Budreddi!”
23. Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi ei hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,
24. a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
25. Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.
26. Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.
27. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hunyn dod o bell,yn wyllt gynddeiriog,yn corddi o'i fewn.Mae'n siarad yn ddig,a'i eiriau fel tân yn difa.
28. Mae ei dymer fel llifogydd gwylltyn cyrraedd at y gwddf.Bydd yn ysgwyd y cenhedloeddmewn gogr i'w dinistrio,ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloeddi'w harwain ar gyfeiliorn.