Eseia 28:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Bydd coron falch meddwon Effraimwedi ei sathru dan draed,

4. a'i blodau wedi gwywo –y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.Byddan nhw fel ffigysen gynnarcyn i'r cynhaeaf ddod.Bydd rhywun yn sylwi arniac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.

5. Bryd hynny,bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn goron hardd,ac yn dorch wedi ei phlethu'n hyfrydi'r bobl fydd wedi eu gadael ar ôl.

6. Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu,a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.

7. Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win;maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw.Mae'r offeiriad a'r proffwydwedi meddwi'n gaib ar gwrwa drysu'n lân ar win.Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw,a'i gweledigaethau'n ddryslyd;maen nhw'n baglu wrth farnu.

8. Mae chwŷd a charthiondros y byrddau i gyd,does dim lle'n lân o gwbl.

9. “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu?I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth?I blantos bachsydd newydd ddod oddi ar y frest?

10. Dim ond ailadrodd llythrennau'r wyddor,‘a, b,’ ‘a, b,’‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’tyrd yma, bach; fan yma, bach!”

11. O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhwfel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.

12. Roedd wedi dweud wrthyn nhw:“Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys;dyma le i chi orwedd i lawr.”Ond doedd neb yn fodlon gwrando.

13. Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw:“‘a, b,’ ‘a, b,’‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’tyrd yma, bach; fan yma, bach!”Wrth geisio mynd yn eu blaenaubyddan nhw'n syrthio ar eu tinau,yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.

14. Felly dyma neges yr ARGLWYDDi chi sy'n gwawdio;chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!

15. Chi sy'n brolio,“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth,a taro bargen i osgoi'r bedd.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”

16. Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion,carreg ddiogel,conglfaen gwerthfawr,sylfaen hollol gadarn.Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.

Eseia 28