Eseia 27:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynnybydd yr ARGLWYDDyn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur –Lefiathan, y neidr droellog;a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.

2. Bryd hynny byddwch yn canu'r gân "Y Winllan Hyfryd":

3. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani,ac yn ei dyfrio hi bob amser.Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,rhag i rywun wneud niwed iddi.

4. Dw i ddim yn ddig bellach:Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,ac yn eu llosgi nhw'n ulw.

5. Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.

6. Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.

Eseia 27