1. Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda:Mae gynnon ni ddinas gref;achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
2. Agorwch y giatiau,i'r genedl gyfiawn ddod i mewna gweld ei ffyddlondeb.
3. Mae'r rhai sy'n dy drystio diyn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
4. Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser,achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth.
5. Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr.Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio –syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.
6. Mae'n cael ei sathru dan draed –traed y rhai anghenus,a sodlau y rhai tlawd.
7. Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
8. Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.
9. Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.