Eseia 23:15-18 beibl.net 2015 (BNET)

15. Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:

16. Cymer delyn, crwydra'r ddinas,butain a anghofiwyd;Cân dy alaw unwaith eto,i wneud i bobl gofio.

17. Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi.

18. Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.

Eseia 23