5. Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch –yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio,a pobl yn gweiddi ar y mynydd.
6. Mae Elam wedi codi'r gawell saethau,gyda'i marchogion a'i cherbydau,ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau.
7. Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau,yn llawn o gerbydau,a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.
8. Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi ei symud.Felly, bryd hynny, dyma chi'n myndi Blas y Goedwig, i nôl yr arfau oedd wedi eu storio.
9. Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchauyn waliau Dinas Dafydd.Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
10. cyfri'r tai yn Jerwsalema chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.
11. Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wali ddal dŵr yr hen lyn.Ond wnaethoch chi ddim cymryd sylw o'r Un wnaeth y cwbl,na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
12. Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn galw ar bobl i wylo a galaru,i siafio'r pen a gwisgo sachliain.
13. Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri,lladd gwartheg a defaid,bwyta cig ac yfed gwin.“Gadewch i ni gael parti ac yfed!Falle byddwn ni'n marw fory!”
14. Roeddwn i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw,”Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
15. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:“Dos i ofyn i'r swyddog,y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas:
16. ‘Beth sy'n digwydd yma?Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma?Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig;Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
17. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd –dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn!Bydd yn dy lapio di'n dynn,
18. yn dy rolio i fyny fel pelenac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn!A dyna ble byddi di'n marw.Yr unig gerbydau crand i gario dy gorfffydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!
19. Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di!Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!