6. dim ond ychydig loffion fydd ar ôl.Bydd fel ysgwyd coeden olewydd,a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf,a pedwar neu bump o'r prif ganghennau,”—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.
7. Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr.Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
8. yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth– eu gwaith llaw eu hunain.
9. Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi eu dinistrio'n llwyr.