1. Neges am Damascus.“Edrychwch ar Damascus!Dydy hi ddim yn ddinas bellach –mae hi'n bentwr o gerrig!
2. Bydd ei phentrefi yn wag am byth:lle i breiddiau orweddheb neb i'w dychryn.
3. Bydd trefi caerog Effraim,a sofraniaeth Damascus yn diflannu.Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syriayn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
4. “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu,a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd: