Eseia 13:19-22 beibl.net 2015 (BNET)

19. Bydd Babilon, y deyrnas harddaf– ysblander a balchder ei phobl –wedi ei bwrw i lawr gan Dduwfel Sodom a Gomorra.

20. Fydd neb yn byw yno byth eto;neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –dim bedowin yn codi ei babell,na bugail yn gorffwys ei braidd.

21. Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.Bydd y dylluan yn byw yno,a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.

22. Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion,a siacaliaid yn ei phlastai.Mae ei hamser bron ar ben;fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.

Eseia 13