Eseia 11:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. Bydd cyfiawnder a ffyddlondebfel belt am ei ganol.

6. Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen,a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.

7. Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,a'u rhai ifanc yn cydorwedd;a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.

8. Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobraa phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.

9. Fydd neb yn gwneud drwgnac yn dinistrio dimar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi.Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD.

10. Bryd hynny,bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyllyn arwydd clir i bobloedd –bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor,a bydd ei le yn ysblennydd.

11. Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – ac hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.

12. Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd,ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel.Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaruo bedwar ban byd.

13. Yna bydd cenfigen Effraim yn darfoda bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben.Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda,a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.

Eseia 11