Eseia 11:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn degac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaeara bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.

5. Bydd cyfiawnder a ffyddlondebfel belt am ei ganol.

6. Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen,a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.

7. Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,a'u rhai ifanc yn cydorwedd;a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.

8. Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobraa phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.

9. Fydd neb yn gwneud drwgnac yn dinistrio dimar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi.Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD.

10. Bryd hynny,bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyllyn arwydd clir i bobloedd –bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor,a bydd ei le yn ysblennydd.

Eseia 11